
Cerbydau newydd, gwirfoddolwyr newydd, apwyntiadau brechu COVID-19
Dau Gerbyd Newydd Arall! Rydyn ni wedi prynu dau gerbyd newydd. Bydd y rhain yn ased go iawn i'r fflyd gan fod y ddau yn fysiau mini amlbwrpas sy’n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.
Dydi COVID-19 ddim yn tarfu ar bopeth!
Erbyn hyn rydyn ni wedi agor yn llawn yn Garej Lion yn Llanfair-ym-muallt ac rydyn ni’n dal i allu nôl a danfon presgripsiynau, siopa a bwyd parod sydd wedi’i archebu ymlaen llaw, trwy garedigrwydd ein gyrwyr gwirfoddol gwych.
Rydyn ni ar gael yn ystod yr argyfwng!
Mae'r holl waith trydanol angenrheidiol bellach wedi'i gwblhau yn Garej Lion, ac rydyn ni wedi gorffen y gwaith peintio a charpedu diolch i'n staff gwych, yn gyflogedig a gwirfoddol.
Symud a Newidiadau Rheoli
Ym mis Mehefin 2020 buom yn chwilio am adeilad newydd, ar ôl cael rhybudd i adael Safle'r Twnnel yng Nghilmeri. Roedd angen rhywle digon mawr arnom i gadw ein cerbydau, lle i wneud gwaith trwsio a chynnal a chadw, lle i storio ein holl finiau ailgylchu, a lle i swyddfa, felly fel y gallwch ddychmygu, roedd yn dasg enfawr.
June Parkinson
Trist iawn oedd clywed am farwolaeth ein hannwyl gyfaill a chyfarwyddwr cwmni Cludiant Cymunedol Llanwrtyd, June Parkinson.
Beth ddigwyddodd i “Arferol”?
Dechreuodd Mawrth 2020 yn y ffordd arferol gyda'n holl wasanaethau ar gael fel arfer. Fel bob amser roeddem yn hysbysebu am yrwyr gwirfoddol i ddefnyddio eu cerbydau eu hunain i fynd ag aelodau i apwyntiadau meddygol yn bell ac agos, ar sbri siopa personol, ac ati.
Te Prynhawn Nadolig yng Nghaer Beris
Ddydd Sadwrn, 14 Rhagfyr 2019, aeth criw o wirfoddolwyr ac aelodau o Glwb Coffi Calon Cymru LWCT am De Prynhawn Nadolig ym Maenor Caer Beris, yn Llanfair-ym-muallt. Talwyd am gostau’r pnawn trwy garedigrwydd LWCT.
Bore o Gerdd a Chân
Ddydd Iau, 12 Rhagfyr 2019, buom yn ddigon ffodus i gael Mairead Matthews o Feulah i chwarae’r allweddell i ni yng Nghlwb Coffi Calon Cymru LWCT.
Nadolig Celtaidd yn Theatr Wyeside
Ar 6 Ragfyr 2019 aeth criw o aelodau Clwb Coffi Calon Cymru LWCT i Theatr Wyeside, yn Llanfair-ym-muallt, i weld A Celtic Christmas gyda Calan, grŵp o Gymru sydd wedi ennill gwobrau rhyngwladol.