Gwasanaeth Ailgylchu ar gyfer Digwyddiadau

Ydych chi eisiau ailgylchu gwastraff yn eich digwyddiad yn y ffordd iawn?
Oes angen help arnoch chi gyda gwastraff digwyddiad rydych chi’n trefnu?
Oes angen help arnoch chi i ddechrau ailgylchu?
Oes angen help arnoch chi i wneud y peth gywir?
Ydych chi’n teimlo cyfrifoldeb i leihau cyfaint y sbwriel rydych chi’n anfon i’r claddfa?
RYDYM NI YMA I HELPU

FFONIWCH NAWR I DRAFOD YR OPSIYNAU

Rydym ni’n cynnig nifer o wasanaethau, gan gynnwys: -

  • Llogi biniau, Bagiau Ailgylchu a Chasgliad yn unig
  • Llogi biniau, Bagiau Ailgylchu, Skip Ailgylchu, Casgliad a Rheoli Gwastraff Ailgylchu
  • Cynhwysol - yr uchod yn ogystal ȃ Wardeniaid Ailgylchu a rheoli a chasglu sbwriel yn y fan.

Tel: 01982 552727

Ffôn: 01982 552727

Ymholwch Nawr! - Ffôn: 01982 552727

Ar gyfer gwybodaeth neu i archebu, galwch neu gwblhewch ein Gysylltwch â ni

Ein Gwasanaethau

Mae Ailgylchu ar gyfer Digwyddiadau gan Cludiant Cymunedol Llanwrtyd yn cynnig gwasanaethau i gynorthwyo trefnwyr digwyddiadau i ailgylchu gwastraff yn effeithiol: -

  • Rheoli gwastraff ailgylchu digwyddiadau, gan ddarparu hefyd: -
    • Biniau Ailgylchu
    • Arwyddion
    • Wardeniaid Ailgylchu i reoli safleoedd ailgylchu
    • Gwarediad gwastraff a sylweddau i'w hailgylchu
    • Cynhaliaeth cyffredinol y safle o ran y gwastraff a chynhyrchir yn ystod y digwyddiad
  • Archwiliadau gwastraff i alluogi’r trefnwyr i gyfrifo’r gwastraff a’r ailgylchu a chynhyrchwir yn ystod y digwyddiad
  • Paratoi polisiau amgylcheddol ar gyfer y digwyddiad
  • Cyngor am becynau tafladwy bwyd/diod a gwastraff bwyd i’w droi yn wrtaith
  • Casgliad a gwaredu ar sylweddau i ailgylchu gan gynnwys boteli a chaniau

'Troi gwastraff lleol mewn i adnodd lleol'

Er mwyn cynorthwyo a chynnal ein gwasanaethau cludiant cymunedol, a dangos ein ymroddiad i'r amgylchedd, dechreuodd CCLL darparu gwasanaethau ailgylchu. Rydym ni'n Cwmni Menter Cymdeithasol, ac mae'r elw a gynhyrchir trwy Ailgylchu ar gyfer digwyddiadau yn cynorthwyo ein gwasanaethau Cludiant Cymunedol eraill threfnir gennym er lles preswylwyr Llanwrtyd a'r ardaloedd cyfagos.

Gallwn ni darparu cymorth gyda chynllunio cyn y digwyddiad, polisïau amgylcheddol, archwiliadau gwastraff, cyngor ar leihau gwastraff, rheolaeth adnoddau ar gyfer y digwyddiad, biniau ailgylchu i'w llogi, a gallwn darparu gwirfoddolwyr. Ffoniwch i drafod eich digwyddiad nesaf.

Pam Ailgylchu?

Yn ddios, mae digwyddiadau cyhoeddus yn creu llawer iawn o wastraff. O sioeau bach, carnifalau stryd i wyliau cerdd mae unrhyw ddigwyddiad sy’n dod â phobl at ei gilydd yn cynhyrchu gwastraff; o’u hailgylchu gall y deunyddiau hyn fod yn adnodd gwerthfawr iawn.

Mae annog gweithgaredd ailgylchu mewn digwyddiadau nid yn unig yn diogelu adnoddau naturiol ac arbed taliadau tirlenwi, ond gall hefyd ddylanwadu yn bositif ar farn y cyhoedd am drefnwyr y digwyddiad. Wrth hyrwyddo delwedd amgylcheddol gadarnhaol mae’n tanlinellu bwriad y trefnwyr i gynnal digwyddiadau mewn modd cyfrifol a pharchus.

Ar hyn o bryd rydym yn defnyddio'r system ailgylchu pum bin sydd wedi sicrhau canlyniadau ailgylchu rhagorol i ni dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ystod Gwanwyn 2012 llwyddwyd i gyrraedd cyfradd ailgylchu o 73.9% a hynny yn Sioe Wanwyn Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Golyga hynny mai ond 27% o'r sbwriel cafodd ei gladdu yn y tir. Yn 2015, rhanwyd ein neges ailgylchu gyda dros 100,000 o bobol trwy ein gweithgareddau a bûm yn rhan o rai digwyddiadau proffil uchel iawn gan gynnwys Gŵyl y Gwanwyn a'r Ffair Aeaf ar Faes Sioe Frenhinol Cymru. Denodd y ddau ddigwyddiad dros 55,000 o bobl, rhif sy’n cynhyrchu llawer o wastraff! Casglwyd dros 70% o wastraff i'w ailgylchu.

Os hoffech i ni eich helpu chi i gyrraedd ffiguru ailgylchu tebyg yn eich digwyddiad chi cysylltwch â ni nawr i drafod y posibiliadau.

Beth bynnag yw eich anghenion, gallwn greu pecyn unigryw yn unol â’ch gofynion arbennig chi, felly rhowch alwad i ni.

Cymorth i Drefnwyr Digwyddiadau

Pam Poeni Am Eich Gwastraff? Gallwn Ni Ei Drin Ar Eich Cyfer!

Ymholwch Nawr! - Ffôn: 01982 552727

Ar gyfer gwybodaeth neu i archebu, galwch neu gwblhewch ein Gysylltwch â ni

Mae'r sefydliad yma yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r gwaith a chyflenwir gan y gwirfoddolwyr sy'n cyfrannu at wasanaethau cludiant cymunedol ac ailgylchu.

Rhannwch y tudalen yma...