Gwefan CCL

Polisi Preifatrwydd

Diweddariad diwethaf: 2021/05/27

Pwy ydym ni

Cyfeiriad ein gwefan yw: https://lwct.org.uk/. Ein enw ni yw Cludiant Cymunedol Llanwrtyd, rhif cwmni 07924691, cyfeiriad ein swyddfa cofrestredig yw: Andrew Jones & Co., The Old Surgery, Spa Road, Llandrindod, LD1 5EY, a chyfeiriad ein prif swyddfa yw: Lion Garage, Castle Street, Llanfair-ym-Muallt, LD2 3BN. Ffôn: 01982 552727. Ebost: swyddfa@lwct.org.uk

Pa data personol yr ydym ni'n casglu a pham

Yn diofyn, nid ydym yn casglu data personol ymwelwyr i'n gwefan. Os oes gennych chi gyfrif ar ein gwefan, byddem ni'n casglu'r data personol yr ydych chi'n rhoi i ni a'i ddefnyddio o fewn y wefan. Gall hyn cynnwys data personol fel eich enw, cyfeiriad ebost, dewisiadau eich cyfrif personol; a data technegol fel y dyddiad mewngofnodi diwethaf.

Ffurflenni cyswllt

Os ydych chi'n cyflwyno ffurflen cyswllt, byddem ni'n derbyn y gwybodaeth ar y ffurflen trwy ebost, e.e. eich enw, ebost, pwnc a'ch neges. Nid ydym ni'n defnyddio'r gwybodaeth a chyflwynir trwy ffurflenni cyswllt ar gyfer dibenion marchnata.

Cwcis

Mae'r gwefan dim ond yn defnyddio cwcis sy'n gwbl angenrheidiol. Rydym ni'n defnyddio cwcis i helpu'r wefan i weithredu, i atal sbam a monitro gweithgareddau maleisus. Os ydych chi'n mewngofnodi, rydym ni'n safio dewisiadau personol mewn cwcis. Mae cwcis yn ffeiliau testyn bychain y gellir eu defnyddio gan wefannau i wneud profiad defnyddwyr yn fwy effeithlon.

Mae cwcis angenrheidiol yn hwyluso defnydd y gwefan trwy alluogi gweithrediadau sylfaenol fel llywio'r rhyngrhwyd a mynediad i ardaloedd diogel y gwefan. Ni all y gwefan gweithredu'n iawn heb y cwcis hyn.

Wrth fynychu ein tudalen mewngofnodi, byddem ni'n gosod cwci dros dro i weld os ydy eich porwr we yn derbyn cwcis. Nid yw'r cwci yma'n cadw unrhyw data personol a gwaredir arno wrth gau'r porwr we.

Wrth fewngofnodi, byddem ni'n gosod sawl cwci i arbed eich fanylion mewngofnodi a'ch dewisiadau arddangosfa sgrîn. Mae'r cwcis mewngofnodi'n para am ddau ddiwrnod ac mae'r rhai dewisiadau sgrîn yn para am flwyddyn. Os detholwch "Cofiwch fi", bydd eich fanylion mewngofnodi'n para am ddwy wythnos. Gwaredir ar gwcis mewngofnodi wrth allgofnodi o'ch cyfrif.

Os ydych chi'n golygu neu'n gyhoeddi erthygl, arbedir cwci ychwanegol yn eich porwr we. Nid yw'r cwci yma'n cynnwys data personol. Mae'n nodi rhif adnabod yr erthygl a golygwyd. Daw y cwci i ben ar ôl 1 diwrnod.

Defnyddwyr Cofrestredig - Staff yn Unig (Gweithwyr a Gwirfoddolwyr)

Os ydych chi wedi cofrestru ar y wefan, rydym ni'n casglu a storio data a weler ar sgrîns proffiliau defnyddwyr cofrestredig. Gall defnyddwyr cofrestredig gweld a golygu eu gwybodaeth personal ar unrhyw bryd. Gall gweinyddwyr y gwefan a rheolwyr llinell hefyd gweld a golygu'r gwybodaeth hwnnw. Gall y defnyddwyr cofrestredig i gyd gweld cyfeiriadur gwybodaeth sylfaenol staff y cwmni (e.e. Enw, Ebost, Ffôn Gwaith, Adran, Enwebiad, Llan/Rhan Amser, Dyddiau Llogi). Gallant hefyd gweld enw'r staff sydd â phenblwydd ar ddod yn yr wythnos nesaf neu gwyliau wedi'u trefnu yn y mis presennol neu'r un nesaf.

Dyler osgoi lanwytho delweddau i'r wefan sy'n cynnwyd data lleoliad (EXIF GPS). Gall ymwelwyr i'r wefan lawrlwytho ac alldynnu unrhyw data lleoliad o ddelweddau ar y wefan.

Dadansoddeg

Nid ydy ein gwefan yn casglu data dadansoddeg.

Mae ein cyfrif gwe-letya yn casglu rhai data technegol anhysbys yn ei ffeiliau cofnodi, ac mae rhein yn cynnwys cyfeiriad IP yr ymwelwr, y LLAU ag ymwelwyd, y cyfeiriad LLAU blaenorol, dyddiad/amser, a gweithredwr defnyddiwr y porwr we. Ni ellir ymwrthod o'r systemau olrhain hyn. Caiff y data yma ei gasglu'n fel rheol er mwyn pennu ystadegau defnydd y wefan, ac i'n helpu ni darganfod a thrwsio gwallau neu lincs sydd wedi'u torri.

Wrth ymweld â'r wefan gallem ni defnyddio cyfeiriad IP a gweithredwr defnyddiwr porwr we yr ymwelwyr i helpu datgelu ac atal sbam, a monitro a gwahardd ymddygiad awtomataidd neu amheus.

Gyda phwy ydym ni'n rhannu eich data personol

Nid ydym ni'n rhannu unrhyw data personol â thrydydd partïon, oni bai am ein darparwr gwe-letya sy'n gallu gweld y data technegol o fewn ein cyfrif gwe-letya er mwyn darparu gwasanaethau cynorthwyol i ni. Cynhalir ein gwefan yn y Deyrnas Unedig gan UKHost4u.com. Gellir ddarllen ei bolisi preifatrwydd fan hyn.

Am ba mor hir yr ydym ni'n cadw'ch data

Cedwir am gyfnod amhenodol y wybodaeth personol ag arddangosir ar broffil defnyddiwr defnyddwyr sy'n cofrestru ar ein gwefan neu nes bod y cyfrif cael ei ddileu gan y defnyddiwr neu'r gweinyddwr/rheolwr llinell. Mae'r cyfnod y mae gwybodaeth a chyflwynwyd trwy ffurfflen cyswllt yn cael ei gadw ar ei gyfer yn atebol i'n polisi dargadwad ebist.

Pa hawliau oes gennych chi drosto'ch data

Os oes gennych cyfrif ar y wefan yma, gallech gofyn i dderbyn ffeil o'r data personol amdano chi yr ydym yn cadw, gan gynnwys unrhyw data yr ydych wedi cyflwyno i ni. Gallech hefyd gofyn i ni dileu unrhyw data personol amdano chi sydd gennym ni. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw data mae'n rhaid i ni gadw am ddibenion gweinyddol, cyfreithiol, neu ddiogelwch.

Ble yr ydym ni'n anfon eich data

Nid ydym ni'n trosglwyddo data tu fas i'r Undeb Ewropeaidd.

Rhannwch y tudalen yma...