Cerbydau newydd, gwirfoddolwyr newydd, apwyntiadau brechu COVID-19

New vehicles, new volunteers, COVID-19 vaccination appointments

Dau Gerbyd Newydd Arall!

Rydyn ni wedi prynu dau gerbyd newydd. Bydd y rhain yn ased go iawn i'r fflyd gan fod y ddau yn fysiau mini amlbwrpas sy’n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.

Gwirfoddolwyr Newydd!

Ein gyrrwr gwirfoddol diweddaraf yw Rae Belfield, sy'n ymuno â'r tîm o yrwyr ceir cymunedol - rydyn ni’n falch iawn o'i chroesawu atom.

Hefyd croesawyd dau wirfoddolwr, Eleri Lewis a Will Feakes, sy'n gweithio ar ein Cynllun Gweithredu Iaith Gymraeg, un dasg sylweddol fydd gwneud y wefan yn ddwyieithog.

Rydyn ni mor ffodus ein bod yn dal i allu recriwtio pobl mor hyfryd.

Cludiant ar gyfer Brechiadau COVID-19

Rydyn ni’n gallu cludo pobl i'r canolfannau brechu torfol neu feddygfeydd lleol ar gyfer eu brechiadau COVID-19. Mae cludiant am ddim i bobl leol. Rydyn ni hefyd yn darparu'r gwasanaeth yma yn ardal Llandrindod gan nad oes ganddyn nhw gynllun gyrwyr gwirfoddol. Ar ben hynny, mae gennym ni gar sy'n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn ar gael os oes angen.

Rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2021, cwblhawyd 71 o deithiau i fynd â phobl i’w hapwyntiadau brechu COVID-19. Rydyn ni wedi mynd â phobl i feddygfeydd yn Llandrindod a Llanfair-ym-Muallt, yn ogystal ag i'r canolfannau brechu torfol ym Mronllys, safle Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, a hefyd i Gaerfyrddin. Mae hyn yn golygu ein bod wedi teithio 1776 o filltiroedd ar gyfer apwyntiadau brechlyn mewn dim ond 3 mis, sef 25 milltir y pen ar gyfartaledd. 

Rydyn ni’n dal i fynd â phobl am apwyntiadau meddygol neu apwyntiadau eraill yn bell ac agos. Mae’r bws siopwr ar gael hefyd, felly os oes angen siopa ar unrhyw un gallan nhw anfon e-bost neu ffonio gyda'u harcheb, a byddwn yn casglu ac yn danfon y neges at y drws.

Mae manylion llawn ein gwasanaethau cludiant ar ein gwefan yn ogystal ag un dudalen sy'n dangos statws diweddaraf y gwasanaethau.

Angen Gyrwyr Gwirfoddol

Mae angen mwy o yrwyr gwirfoddol arnom o hyd ar gyfer ardal Llanwrtyd ac ardal Llandrindod. Rydyn ni’n awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr dwyieithog oherwydd ein bod yn bwriadu darparu gwasanaethau yn Gymraeg, ond os na allwch siarad Cymraeg peidiwch â gadael i hyn eich atal rhag gwneud cais.

Mae’r cynllun yn fwy fforddiadwy a chynaliadwy os yw’r gwirfoddolwyr yn byw’n agos at lle mae angen gwasanaethau oherwydd bod y teithiau’n fyrrach. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn rhan o'r tîm, cysylltwch â ni, hyd yn oed os mai dim ond 1 awr y mis y gallwch ei gynnig, gwerthfawrogir pob munud o amser ac mae'n golygu cymaint i'r bobl hynny rydych chi'n eu helpu. Mae gyrwyr gwirfoddol yn cael costau teithio yn unol â chanllawiau'r llywodraeth.

Angen Mwy o Gyfarwyddwyr Cwmni

Rydym hefyd am recriwtio dau o Gyfarwyddwyr Cwmni newydd. Ar hyn o bryd mae pedwar cyfarwyddwr, un ferch a thri dyn, pob un dros 55 oed, a hoffem ehangu'r oedrannau a’r sgiliau a gynrychiolir. Fyddech chi’n gallu ymuno â ni i wneud penderfyniadau a chynllunio gwasanaethau yn y dyfodol?

Ar hyn o bryd cynhelir pob cyfarfod ar-lein trwy alwadau fideo Zoom, fe'u cynhelir bob ychydig wythnosau ac yn gyffredinol maen nhw’n para tua 90 munud. Yn ddelfrydol byddech chi'n byw yn ein dalgylch, Llanwrtyd, Llangammarch, Abergwesyn, Cefn Gorwydd, Tirabad, Beulah, Cilmeri, or Garth, ac yn cynnig sgiliau busnes y gallech eu rhannu â Chyfarwyddwyr eraill y Cwmni.

Os hoffech chi defnyddio gwasanaethau ein gyrrwyr gwirfoddol neu'r bws siopa, neu os oes gennych chi diddordeb mewn gwirfoddoli, Gysylltwch â ni neu ffoniwch 01982 552727.

Gwirfoddolwch ar lein trwy wefan Gwirfoddoli-Cymru.

Ein Cylchlythyron Misol

These are packed with interesting facts and information. The March edition featured St David’s Day; St David is the Patron Saint of Wales, and the beautiful 11th century St David’s Church, Llanwrtyd Wells is on the road out towards Abergwesyn and is well worth a visit. There was also Mothering Sunday and St Patrick’s Day and a tribute to Captain Sir Tom Moore and so much more. April’s edition included some history of Llanwrtyd Wells, how things started with the sulphur-spring wells, all the shops and the train coming in full several times a day. The May newsletter began with information about Beltane, the Gaelic Pagan festival and how to make a Wish Box, and included a piece on May Day, Whitsuntide and Spring Bank Holiday. We also had our first Y Golofn Gymraeg (The Welsh Column) which featured an article about the Bethesda Calvinistic Methodist Chapel in Llanwrtyd Wells – a Welsh-language article will be a regular feature. All issues of the monthly newsletter are available to download on the website News pagesy wefan. Os hoffech chi dderbyn copi pob mis, danfonwch eich cyfeiriad ebost i mi ar pat@lwct.org.uk.

Rhannwch y tudalen yma...