



- apwyntiad meddygol neu apwyntiad arall
- taith siopa unigol
- ymweld â theulu neu ffrindiau
- teithio at y milfeddyg gydag anifail anwes
- taith i gyrchfan wyliau
- casglu presgripsiwn meddygol, casglu siopa a archebwyd ymlaen llaw neu brydau parod
Apwyntiad Gofal Iechyd neu Angen Cludiant Personol Arall?
Am apwyntiadau wedi'u trefnu ymlaen llaw
Os yw mynd at feddyg, podiatrydd, deintydd, optegydd, arbenigwr meddygol neu apwyntiad iechyd arall yn broblem, gallwn eich helpu i’ch danfon yno ac yn ôl. P’un ai a ydych chi'n byw i fyny lôn wledig fach neu os yw'r apwyntiad ysbyty 100 milltir i ffwrdd! Mae gennym gerbyd sy'n addas i gadeiriau olwyn os nad ydych chi'n gallu mynd i mewn i gar. Rydym hefyd yn gallu casglu a danfon presgripsiynau, siopa a bwyd tecawê wedi'i archebu ymlaen llaw yn lleol i'r rhai mewn angen.
Caiff y gwasanaeth hwn ei ddarparu gan ein grŵp gwych o yrwyr gwirfoddol a chodir tâl fesul milltir. Mae'r gost bob amser yn cael cymhorthdal. Holwch am fanylion. Weithiau gallwn gynnig y gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim - os ydym wedi derbyn grant i dalu am eich taith.
Mae eich priod, partner neu ofalwr bob amser yn teithio am ddim. Ceir gwybodaeth am gymwysterau ein gyrwyr ar y dudalen Amdanom Ni. Dyma oedd gan un o'n defnyddwyr ceir cymunedol rheolaidd i’w amdano’r gwasanaeth.
Mae Cludiant Car Cymunedol i apwyntiadau meddygol ar gael 365 diwrnod y flwyddyn.
- siopa wedi’i archebu ymlaen llaw
- siopa’n rheolaidd neu daith siopa unigol
- pan na allwch fynd i’r siop eich hun
Allwn Ni Nôl a Danfon eich Siopa?
Eich siopa wedi'i gludo i'ch cartref
Os yw mynd i’r siopau’n rheolaidd yn broblem, gallwn ni helpu trwy nôl eich siopa i chi.
The Community Shopping Bus allows us to collect your pre-ordered shopping and deliver it to your door. You phone or email your order to us; we then pick the goods and deliver them to you. This means we can do several people’s shopping in one run, which keeps costs down. Big shops like Tesco, Co-op and smaller local shops are included. The service is primarily for the elderly, infirm or people self-isolating, however we will help as many people and age groups as possible.
I ddefnyddio'r gwasanaeth hwn bydd angen i chi gofrestru gyda ni, felly os oes gennych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod ddiddordeb mewn cael eich cynnwys, rhowch wybod i ni, a byddwn yn anfon ffurflen gais gydag amlen â stamp arni i’w dychwelyd a manylion llawn y gwasanaeth.
Ar hyn o bryd, gallwn gynnig y gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim - rydym wedi derbyn grant penodol i dalu'r costau cludo - felly dim ond am y siopa y mae angen i chi dalu.
- gweld rhywle newydd
- cwrdd â ffrindiau hen a newydd
- mynd allan i leoedd diddorol
Mynd Allan Gyda Ni i Rywle Diddorol am y Dydd?
Ymweld â rhywle newydd neu bwyta cinio mas
Rydym yn darparu teithiau undydd cyfeillgar i leoedd o ddiddordeb ar hap, fel yr awgrymwyd gan ein defnyddwyr. Gallai’r rhain fod yn agos at adref, fel, un o'r canolfannau garddio lleol, neu Gwm Elan; neu ymhellach i ffwrdd i atyniadau twristaidd, fel glan y môr yn Ninbych-y-pysgod, neu'r Gerddi Muriog yn Llanandras. Holwch am wybodaeth am unrhyw deithiau sydd wedi’u cynllunio’n barod neu mae croeso i chi awgrymu teithiau.
Mae cost cludo yn cael cymhorthdal. Holwch am fanylion. Mae prydau bwyd, ffioedd mynediad neu docynnau ar eich cost eich hun.
Mae teithiau cymdeithasol fel arfer yn gyfyngedig i 20 o bobl yn y grŵp ac mae’n hanfodol archebu ymlaen llaw. Archebwch yn gynnar i sicrhau eich sedd.
Mae gennym ni gerbydau sy'n addas i gadeiriau olwyn. Ceir gwybodaeth am gymwysterau ein gyrwyr ar y dudalen Amdanom Ni. I weld rhai o'r lleoedd blaenorol yr ydym wedi ymweld â nhw, edrychwch ar Newyddion Cludiant Cymunedol..
Cynhelir Teithiau Cludiant Cymunedol unwaith y mis yn ystod misoedd yr haf.
- taith fel teulu neu grŵp
- taith fel ysgol neu sefydliad
- cludiant ar gyfer digwyddiadau
Oes Angen Arnoch Chi i Logi Bws Mini?
Cludiant un tro neu'n rheolaidd ar gyfer grwpiau
Oes! Gallech chi llogi un neu fwy o’n bysys mini yn ôl eich angen, naillai unwaith neu ar gyfer digwyddiadau cymunedol rheolaidd. Cysylltwch ȃ ni i drafod sut gallwn ni helpu chi neu’ch sefydliad.
Gallech chi gyrru y bws mini eich hunain, yn amodol ar gymwysterau, neu allwn ni darparu gyrrwr ar gyfer y bws mini hefyd. Mae mwy o fanylion am gymwysterau gyrru ein gyrrwyr ar y tudalen Amdanom Ni. Gweler isod beth dywedodd un o’n llogwyr rheolaidd amdano’r gwasanaeth.
Mae gennym ni cerbydau sy’n cynnig mynediad i deithwyr ȃ chadeiriau olwyn. Mae’r gwasanaeth llogi bws mini ar gael trwy gydol y flwyddyn.