Archebion Parhaus ar gyfer y Gwasanaeth Ailgylchu Gwastraff Digwyddiadau

Continuous Bookings for Event Recycling

Prysur iawn o Awst i Hydref

I ein tîm bach ymroddgar o staff y Gwasanaeth Ailgylchu Gwastraff Digwyddiadau, mae Haf a Hydref 2023 yn troi allan i fod, o leiaf, mor brysur â blynyddoedd blaenorol.

Y Gwasanaeth Ailgylchu Gwastraff Digwyddiadau yn Cefnogi ein Gwasanaethau Cludiant Cymunedol

Mae llawer o’r digwyddiadau rydym yn darparu gwasanaeth ailgylchu a rheoli gwastraff ar eu cyfer wedi`i leoli ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, ond rydym hefyd yn darparu gwasanaethau mewn llawer o sioeau a digwyddiadau cymunedol eraill. Mewn llawer o'r digwyddiadau hyn, rydym hefyd wedi achub ar y cyfle i'n tîm cysylltiadau cyhoeddus fod yn bresennol, gan esbonio ein gwasanaethau i ddarpar ddefnyddwyr.

O edrych ar y dyddiadur ar gyfer y cyfnod rhwng Awst a Hydref, mae archebion wedi bod bron yn barhaus am wythnosau lawer. Mae llawer o ddigwyddiadau yn hen ffrindiau, ac fe’u gwelwn bob blwyddyn, ond eleni mae’r tîm wedi rhoi sylw i rai digwyddiadau sy’n digwydd am y tro cyntaf, a gobeithiwn bydd y rhain yn ddigon llwyddiannus i barhau'r flwyddyn nesaf.

Yn ogystal â chynnig amrywiaeth o wasanaethau rheoli gwastraff, mae ein staff ailgylchu yn gweithio`n agos â threfnwyr digwyddiadau, gan egluro Rheoliadau Gwastraff newydd Cymru, sy’n gweld gwaharddiad llwyr ar blastigau untro mewn digwyddiadau awyr agored sy’n cynnwys gweithgareddau arlwyo bwyd; a’r posibilrwydd o gyflwyno rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyllyll a ffyrc a theclynnau gael eu gwneud o ddeunyddiau y gellir eu compostio, coed bedw, startsh corn, ac ati yn unig yn hytrach na phlastig.

Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sy’n parhau i gefnogi ein gwasanaeth ailgylchu gwastraff digwyddiadau, gan ei fod yn creu refeniw y mae mawr ei angen i gefnogi’r teithiau car cymunedol.

Nid yw bob amser yn waith dymunol, ac eleni yn arbennig mae’r staff wedi bod allan ym mhob tywydd. Y tu ôl i'r llenni, maent yn dîm gwych, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a'r ymroddiad a roddwyd i mewn ym mhob digwyddiad. Os gwelwch unrhyw un o'r staff mewn digwyddiad yr ydych yn ei fynychu, cadwch olwg am y festiau oren llachar, croeso i chi ddweud helo!

Mae ein gwefan yn cynnwys manylion llawn ein gwasanaethau ailgylchu ynghyd â thaflen ailgylchu gwastraff digwyddiadau y gellir ei lawrlwytho.

Os hoffech chi defnyddio gwasanaethau ein gyrrwyr gwirfoddol neu os oes gennych chi diddordeb mewn gwirfoddoli, Gysylltwch â ni neu ffoniwch 01982 552727.

Rhannwch y tudalen yma...