Ystadegau’r Cynllun Ceir Cymunedol
Pellter gyrru blynyddol o fwy na 39,000 o filltiroedd!
Wrth edrych yn ôl ar y flwyddyn ariannol ddiwethaf, mae teithiau’r Cynllun Ceir Cymunedol wedi bod y prysuraf erioed ers pedair blynedd yn olynol, cyn belled yn ôl â phan ddechreuwyd cofnodi data teithiau yn fanwl.
Ebrill 2023 i Fawrth 2024
Teithiodd ein ceir cymunedol a gwirfoddol ychydig dros 39,127 o filltiroedd (bron i 62,968 cilometr) mewn 1,257 o deithiau, yn y 12 mis hynny.
Mae'r galw am y gwasanaeth ceir cymunedol yn fwy poblogaidd nag erioed.
Milltiroedd | Teithiau |
---|---|
1 - 5 milltiroedd 5 - 10 milltiroedd 10 - 20 milltiroedd 20 - 50 milltiroedd 50+ milltiroedd | 45.5% 9.0% 7.5% 15.5% 22.5% |
100% |
Sut rydyn ni’n ariannu’r gwasanaeth?
Mae golwg manylach ar y dyddiaduron bwcio yn dangos mai i apwyntiadau iechyd y teithiwyd y rhan fwyaf (ychydig yn llai 70% o’r holl filltiroedd), nid ydyn ni’n derbyn yr un geiniog o gymorth ar gyfer hyn, er bod trafodaethau cadarn yn parhau gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol a Chyngor Sir Powys.
Daw prif gyllid y cynllun Ceir Cymunedol o warged gweithredu'r cwmni o weithgareddau masnachol - Cludo or Cartref i'r Ysgol ac Ailgylchu Gwastraff Digwyddiadau.
Dadansoddiad o'n Dyddiadur Bwcio ar gyfer mis Ebrill 2023 i fis Mawrth 2024
Cyrchfannau | Nifer y Teithiau | Cant | Milltiroedd a Chwblhewyd | Cant |
---|---|---|---|---|
Siopa Meddygol | 193 406 | 15% 32% | 4,175 26,610 | 11% 68% |
• Brechiadau • Gofal Sylfaenol • Uned Mân Anafiadau • Ysbyty Cyffredinol Dosbarth | 44 111 78 173 | 4% 9% 6% 14% | 1,830 2,135 4,055 18,590 | 5% 5% 10% 48% |
Car Cymunedol Eraill | 299 359 | 24% 29% | 6,547 1,795 | 17% 5% |
1,257 | 100% | 39,127 | 100% |
A Allech Chi Ein Helpu, i Helpu?
Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’n criw ffyddlon o yrwyr ceir cymunedol, sy’n dangos parodrwydd yn aml i ateb y galw yn ystod oriau anghymdeithasol, megis boreau cynnar a nosweithiau hwyr, i ddarparu cludiant i aelodau ein cynllun.
DIOLCH yn fawr iawn iddyn nhw.
Os gallwch chi sbario awr neu ddwy y mis, fe allwch chi helpu eich cymdogaeth leol gydag anghenion cludiant hanfodol. Gallwch ein ffonio ar 01982 552727 neu ddarllen rhagor a gwneud cais yma.
Ymunwch a Defnyddiwch ein Gwasanaethau
Os hoffech chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, gofrestru fel aelod o’r cynllun, byddem yn falch o glywed gennych.
Byddem yn hapus i drafod sut y gallai unrhyw un o’n gwasanaethau cludiant fod o gymorth.
Ffoniwch ni ar 01982 552727 neu anfonwch neges atom.