Strwythur a Hanes ein Cwmni

Amdanom Ni

Menter Gymdeithasol a Mudiad Gwirfoddol

Mae Cludiant Cymunedol Lanwrtyd yn Fenter Gymdeithasol ddi-elw. Ceir Rheolwr Cyffredinol, staff llawn amser a rhan-amser, a gwirfoddolwyr gwych. Fe'i rheolir gan Fwrdd Cyfarwyddwyr ac mae wedi bod yn gweithredu ers 2002. Ers 2012 mae wedi'i ymgorffori fel Cwmni Cyfyngedig, does dim cyfalaf cyfranddaliadau na chyfranddalwyr.

Ardaloedd lle’r ydym yn Cynnig Cludiant Cymunedol a Gwasanaethau Eraill

Mae Cludiant Cymunedol Lanwrtyd yn cynnig gwasanaethau i drigolion yn ardal canol Powys yng Nghymru, o gwmpas Llanwrtyd, tref leiaf Prydain.Mae'r ardaloedd hynny’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Abergwesyn, Beulah, Cefn Gorwydd, Cilmeri, Garth, Llandrindod, Llangammarch, Lanwrtyd, a Tirabad.

Y Broblem gyda Chludiant Cymunedol

Mae'r ardal hon o Gymru, sy’n gyfagos i ardal a elwir gan rai’n 'Anialwch Gwyrdd Cymru', yn wledig iawn ac yn brin ei phoblogaeth. Nid oes llawer o gludiant cyhoeddus ar gael. Gall cyrraedd y siopau, ysbytai neu wasanaethau eraill olygu taith hir, gan ei gwneud yn arbennig o anodd gweithredu gwasanaeth cludiant cymunedol yma. Mae angen lefel ddigonol o gymhorthdal ar gyfer cost cludiant cymunedol i'w wneud yn fforddiadwy i'n defnyddwyr gwasanaethau. Gan nad oes llawer o grantiau ar gael, mae angen i ni barhau i feddwl yn greadigol!

Ffrydiau Incwm rheolaidd

Ariennir Cludiant Cymunedol Llanwrtyd yn rhannol gan gyllid grant (tua 6% yn 2020) ac yn rhannol gan ein hymdrechion ein hunain. Mae incwm o'r gweithgareddau canlynol yn ein helpu i gefnogi’r gwasanaeth Cludiant Cymunedol a gwasanaethau eraill a gynigiwn yn ogystal ag adeiladu perthynas waith dda gyda'r awdurdod lleol a sefydliadau eraill sy'n benodol i'r sector: –

Gwasanaeth Ailgylchu ar gyfer Digwyddiadau

Rydym wedi cofrestru fel brocer cwbl gymwys ar gyfer ailgylchu a rheoli gwastraff. Os ydych yn trefnu digwyddiad, edrychwch ar ein gwasanaethau o dan Ailgylchu Digwyddiadau.

Bysiau Ysgol ar Lwybrau Gwledig

Mae Cyngor Sir Powys yn contractio Cludiant Cymunedol Llanwrtyd i reoli a gweithredu rhai o’r llwybrau cludiant mwyaf gwledig ar gyfer ysgolion y Cyngor.

Swyddfa a Depo Cerbydau

Ers 2020 mae ein canolfan weinyddol a'n depo cerbydau wedi'u lleoli yn nhref Llanfair-ym-muallt, oherwydd bod safleoedd addas ar gael yno.

Cydweithio a Phartneriaethau

Rydym yn gweithio gyda gwasanaethau, asiantaethau a phartneriaid eraill i gryfhau a gwella gwasanaethau lleol a chyrraedd at y nifer fwyaf o bobl ar draws ardal canol Powys.

Ynglŷn â'n Gyrwyr, Cymwysterau, Hyfforddiant a Cherbydau

We only use MiDAS Trained, Registered and Certified Drivers. For persons with disabilities we also have MiDAS Accessibility Trained, Registered and Certified Drivers. MiDAS is the “Minibus Driver Awareness Scheme” you can find out more about it at Gymdeithas Cludiant Cymunedol.

Mae gennym ni gerbydau hygyrch ar gyfer yr henoed a phobl gydag anableddau, gyda chymorth i fynd i’r cerbyd ac i ddod allan o’r cerbyd.

Mae LWCT yn sicrhau bod pob un o'n gwirfoddolwyr a'n staff wedi'u hyfforddi a'u hardystio'n llawn yn y meysydd canlynol: Gwacáu mewn achos Tân, Cymorth cyntaf, Gyrru Cerbyd Aml-bwrpas (MPV) fel Gwirfoddolwr, MiDAS a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Crynodeb o’n Hanes

Fel sefydliad, gallwn olrhain ein gwreiddiau yn ôl i 2002. Yn wreiddiol, roedd y Prif Gyfarwyddwr yn cael ei gyflogi gan Gymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys (PAVO), ac rydym yn parhau i gynnal cysylltiadau agos rhwng LWCT a PAVO. Daeth yn amlwg yn fuan iawn na fyddai cyllid grant yn unig yn ddigon i ddarparu cymhorthdal ar gyfer costau cludiant i’w wneud yn ddigon fforddiadwy yn yr ardal wledig hon gyda phoblogaeth wasgaredig. Yn 2007, cawsom gyllid gan Powys Zero Waste i weithredu 'prosiect ymchwil gweithredol' a dechreuwyd y gwasanaeth Ailgylchu ar gyfer Digwyddiadau. Fe wnaethom ni gofrestru fel ymdrinwyr/broceriaid gwastraff rheoledig proffesiynol gydag ymrwymiad i ddiogelu ein hamgylchedd. Am rai blynyddoedd, roedd gwastraff gwydr o ddigwyddiadau lleol yn cael ei falu i greu ysgyrion gwydr (darnau o wydr heb ochrau miniog), i’w werthu fel cynnyrch crai neu i’w gymysgu gyda resin i greu addurniadau gardd. Yn 2020, fe wnaethom ni symud i bencadlys newydd a daeth y gwaith o greu ysgyrion gwydr i ben gan nad oedd yn creu digon o elw. Fodd bynnag, mae’r gwasanaeth Ailgylchu Digwyddiadau yn parhau ac yn darparu ffrwd incwm pwysig.

Rhannwch y tudalen yma...