
Ystadegau’r Cynllun Ceir Cymunedol
Pellter gyrru blynyddol o fwy na 36,000 o filltiroedd! Wrth edrych yn ôl ar y flwyddyn ariannol ddiwethaf, mae teithiau’r Cynllun Ceir Cymunedol wedi bod y prysuraf erioed ers pedair blynedd yn olynol, cyn belled yn ôl â phan ddechreuwyd cofnodi data teithiau yn fanwl.
Bws Cymunedol
Datblygiadau’r Gwasanaeth: Mae cyllid wedi ein galluogi i redeg y gwasanaeth bws cymunedol newydd ddwywaith yr wythnos, ers i ni ei sefydlu ym mis Rhagfyr 2023. Mae'n profi i fod yn boblogaidd, ac yn llawer o hwyl hefyd, gyda defnyddwyr y gwasanaeth.