Ym mis Mehefin 2020 buom yn chwilio am adeilad newydd, ar ôl cael rhybudd i adael Safle'r Twnnel yng Nghilmeri. Roedd angen rhywle digon mawr arnom i gadw ein cerbydau, lle i wneud gwaith trwsio a chynnal a chadw, lle i storio ein holl finiau ailgylchu, a lle i swyddfa, felly fel y gallwch ddychmygu, roedd yn dasg enfawr.