
Cerbydau newydd, gwirfoddolwyr newydd, apwyntiadau brechu COVID-19
Dau Gerbyd Newydd Arall! Rydyn ni wedi prynu dau gerbyd newydd. Bydd y rhain yn ased go iawn i'r fflyd gan fod y ddau yn fysiau mini amlbwrpas sy’n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.
Dydi COVID-19 ddim yn tarfu ar bopeth!
Erbyn hyn rydyn ni wedi agor yn llawn yn Garej Lion yn Llanfair-ym-muallt ac rydyn ni’n dal i allu nôl a danfon presgripsiynau, siopa a bwyd parod sydd wedi’i archebu ymlaen llaw, trwy garedigrwydd ein gyrwyr gwirfoddol gwych.