Manylion Cyswllt
Ffôn: 01982 552727
Lynda Pace-Avery
Cyd-cyfarwyddwr

Cefais fy ngeni yn Llundain. Dwi wedi byw yn Llanwrtyd ers 2009. Symudodd fy ngŵr a minnau o Sheffield, lle bu’r ddau ohonom yn byw am 27 mlynedd. Roeddem yn adnabod yr ardal gan fod fy ngŵr wedi ei eni yn Rhandirmwyn ac mae ganddo deulu yma o hyd.
Dwi’n Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig, gyda phrofiad o waith ataliol, maethu a mabwysiadu, a gwaith cymdeithasol brys. Roeddwn yn aelod o'r panel maethu ac yn aelod o Gonsortiwm De Swydd Efrog, a oedd yn goruchwylio hyfforddiant myfyrwyr gwaith cymdeithasol. Roeddwn i'n rheoli Canolfan Blant yn Doncaster hefyd a sefydlais Uned Teulu Phoenix a oedd yn galluogi plant i aros gyda'u rhieni tra bod y rhieni'n derbyn triniaeth am eu dibyniaeth.
Ers symud i Lanwrtyd, bûm yn gweithio i Gymorth i Fenywod Sir Faesyfed ac, yn fwy diweddar, dwi’n gweithio ym Mryn Irfon, uned breswyl i oedolion ag anableddau dysgu.
Dwi’n Gynghorydd Tref yn Llanwrtyd a bûm yn Faer y Dref yn 2018-2021. Dwi wedi gwirfoddoli i wahanol grwpiau yn Llanwrtyd, e.e. y Beavers, Canolfan Treftadaeth a Chelfyddydau Llanwrtyd, lle recordiais rai o'r hanesion llafar, Dolwen: Hamdden i Bawb, dwi wedi bod yn stiwardio ar gyfer y gwahanol ddigwyddiadau, ac wedi bod yn rhan o'r broses gofrestru ar gyfer y Teithiau Cerdded Pedwar Diwrnod. Nid yn unig hynny, ond dwi’n aelod o Gymdeithas Gymunedol Llanwrtyd, sy'n is-gwmni i Fanc Bwyd Llandrindod, a Phwyllgor Gŵyl Llanwrtyd.
Dwi’n caru Llanwrtyd ac yn ymroddedig i wella ansawdd bywyd yma. Mae Trafnidiaeth Gymunedol Llanwrtyd yn ased i'r dref, gan gludo pobl i apwyntiadau meddygol a mynd â chymdogion sy’n defnyddio cadair olwyn ar deithiau siopa.

Rhannwch y tudalen yma...

Bydd hyn yn pasio hefyd. / Bydd popeth yn iawn - Julian o Norwich