Mae Laura'n delio â phob problem trafnidiaeth, ymholiadau ailgylchu ac yn dilyn drwy'r broses gyfan o ailgylchu digwyddiadau. Mae'n amlwg bod y rhain yn ddwy swydd fawr iawn, ac mae hi ar flaen y gad wrth ymdrin â’r datblygiadau diweddaraf. Mae Laura hefyd yn delio â'r cyllid a'r ceisiadau grant ynghyd â Stephen.
Ar ôl 15 mlynedd yn gweithio gyda chwmni torri i alwr ac adfer ceir , dechreuais gyda LWCT fel gyrrwr/hebryngwr ar gyfer ysgol ADY ym mis Hydref 2011. Dechreuais wneud gwaith gweinyddol rhan-amser i'r sefydliad ac yn y pen draw gadawais y rôl hebrwng plant i'r ysgol i wneud hyn yn llawn amser. Fe wnes i basio fy CPC Rheolwr Trafnidiaeth ym mis Ebrill 2014 ac enillais ILM Lefel 2 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn Rhagfyr 2017. Ar hyn o bryd, fi yw Rheolwr Cyffredinol y sefydliad ac yn goruchwylio'r gwaith o redeg yr ochr drafnidiaeth o ddydd i ddydd ac rwyf hefyd yn delio â changen ailgylchu digwyddiadau'r sefydliad. Rwy'n gweithio'n agos gyda'r bwrdd cyfarwyddwyr i sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio, yn effeithlon ac yn cyflawni ei ddibenion craidd yn y gymuned.