{"id":1337,"date":"2021-05-11T22:58:06","date_gmt":"2021-05-11T21:58:06","guid":{"rendered":"https:\/\/lwct.org.uk\/?p=1337"},"modified":"2023-04-27T11:47:05","modified_gmt":"2023-04-27T10:47:05","slug":"march-april-may-2021","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/lwct.org.uk\/cy\/march-april-may-2021\/","title":{"rendered":"Cerbydau newydd, gwirfoddolwyr newydd, apwyntiadau brechu COVID-19"},"content":{"rendered":"<h2 class=\"wp-block-heading\">Dau Gerbyd Newydd Arall!<\/h2>\n\n\n\n<p>Rydyn ni wedi prynu dau gerbyd newydd. Bydd y rhain yn ased go iawn i'r fflyd gan fod y ddau yn fysiau mini amlbwrpas sy\u2019n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.<\/p>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gwirfoddolwyr Newydd! <\/h2>\n\n\n\n<p>Ein gyrrwr gwirfoddol diweddaraf yw Rae Belfield, sy'n ymuno \u00e2'r t\u00eem o yrwyr ceir cymunedol - rydyn ni\u2019n falch iawn o'i chroesawu atom.<\/p>\n\n\n\n<p>Hefyd croesawyd dau wirfoddolwr, Eleri Lewis a Will Feakes, sy'n gweithio ar ein Cynllun Gweithredu Iaith Gymraeg, un dasg sylweddol fydd gwneud y wefan yn ddwyieithog.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydyn ni mor ffodus ein bod yn dal i allu recriwtio pobl mor hyfryd.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cludiant ar gyfer Brechiadau COVID-19<\/h2>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-media-text alignwide has-media-on-the-right is-stacked-on-mobile\"><div class=\"wp-block-media-text__content\">\n<p>Rydyn ni\u2019n gallu cludo pobl i'r canolfannau brechu torfol neu feddygfeydd lleol ar gyfer eu brechiadau COVID-19. Mae cludiant am ddim i bobl leol. Rydyn ni hefyd yn darparu'r gwasanaeth yma yn ardal Llandrindod gan nad oes ganddyn nhw gynllun gyrwyr gwirfoddol. Ar ben hynny, mae gennym ni gar sy'n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn ar gael os oes angen.<\/p>\n<\/div><figure class=\"wp-block-media-text__media\"><img decoding=\"async\" width=\"488\" height=\"274\" src=\"https:\/\/lwct.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/image_2021-03-03_121249.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-1169 size-full\"\/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2021, cwblhawyd 71 o deithiau i fynd \u00e2 phobl i\u2019w hapwyntiadau brechu COVID-19. Rydyn ni wedi mynd \u00e2 phobl i feddygfeydd yn Llandrindod a Llanfair-ym-Muallt, yn ogystal ag i'r canolfannau brechu torfol ym Mronllys, safle Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, a hefyd i Gaerfyrddin. Mae hyn yn golygu ein bod wedi teithio 1776 o filltiroedd ar gyfer apwyntiadau brechlyn mewn dim ond 3 mis, sef 25 milltir y pen ar gyfartaledd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Rydyn ni\u2019n dal i fynd \u00e2 phobl am apwyntiadau meddygol neu apwyntiadau eraill yn bell ac agos. Mae\u2019r bws siopwr ar gael hefyd, felly os oes angen siopa ar unrhyw un gallan nhw anfon e-bost neu ffonio gyda'u harcheb, a byddwn yn casglu ac yn danfon y neges at y drws.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"translation-block\">Mae manylion llawn ein gwasanaethau cludiant ar ein gwefan yn ogystal ag un dudalen sy'n dangos statws diweddaraf y gwasanaethau.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Angen Gyrwyr Gwirfoddol<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae angen mwy o yrwyr gwirfoddol arnom o hyd ar gyfer ardal Llanwrtyd ac ardal Llandrindod. Rydyn ni\u2019n awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr dwyieithog oherwydd ein bod yn bwriadu darparu gwasanaethau yn Gymraeg, ond os na allwch siarad Cymraeg peidiwch \u00e2 gadael i hyn eich atal rhag gwneud cais.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"translation-block\">Mae\u2019r cynllun yn fwy fforddiadwy a chynaliadwy os yw\u2019r gwirfoddolwyr yn byw\u2019n agos at lle mae angen gwasanaethau oherwydd bod y teithiau\u2019n fyrrach. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn rhan o'r t\u00eem, cysylltwch \u00e2 ni, hyd yn oed os mai dim ond 1 awr y mis y gallwch ei gynnig, gwerthfawrogir pob munud o amser ac mae'n golygu cymaint i'r bobl hynny rydych chi'n eu helpu. Mae gyrwyr gwirfoddol yn cael costau teithio yn unol \u00e2 chanllawiau'r llywodraeth.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Angen Mwy o Gyfarwyddwyr Cwmni<\/h2>\n\n\n\n<p>Rydym hefyd am recriwtio dau o Gyfarwyddwyr Cwmni newydd. Ar hyn o bryd mae pedwar cyfarwyddwr, un ferch a thri dyn, pob un dros 55 oed, a hoffem ehangu'r oedrannau a\u2019r sgiliau a gynrychiolir. Fyddech chi\u2019n gallu ymuno \u00e2 ni i wneud penderfyniadau a chynllunio gwasanaethau yn y dyfodol? <\/p>\n\n\n\n<p>Ar hyn o bryd cynhelir pob cyfarfod ar-lein trwy alwadau fideo Zoom, fe'u cynhelir bob ychydig wythnosau ac yn gyffredinol maen nhw\u2019n para tua 90 munud. Yn ddelfrydol byddech chi'n byw yn ein dalgylch, Llanwrtyd, Llangammarch, Abergwesyn, Cefn Gorwydd, Tirabad, Beulah, Cilmeri, or Garth, ac yn cynnig sgiliau busnes y gallech eu rhannu \u00e2 Chyfarwyddwyr eraill y Cwmni.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-pullquote\"><blockquote><p>Os hoffech chi defnyddio gwasanaethau ein gyrrwyr gwirfoddol neu'r bws siopa, neu os oes gennych chi diddordeb mewn gwirfoddoli, <a href=\"\/cy\/contact\/\">cysylltwch \u00e2 ni<\/a> neu ffoniwch 01982 552727.<\/p><cite>Gwirfoddolwch ar lein trwy wefan <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/powys.volunteering-wales.net\/vk\/volunteers\/provider_profile.htm?name=LlanwrtydWellsCommunityTransport&amp;pid=\" target=\"_blank\">Gwirfoddoli-Cymru<\/a>.<\/cite><\/blockquote><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Ein Cylchlythyron Misol<\/h2>\n\n\n\n<p>These are packed with interesting facts and information. The March edition featured St David\u2019s Day; St David is the Patron Saint of Wales, and the beautiful 11th century St David\u2019s Church, Llanwrtyd Wells is on the road out towards Abergwesyn and is well worth a visit. There was also Mothering Sunday and St Patrick\u2019s Day and a tribute to Captain Sir Tom Moore and so much more. April\u2019s edition included some history of Llanwrtyd Wells, how things started with the sulphur-spring wells, all the shops and the train coming in full several times a day. The May newsletter began with information about Beltane, the Gaelic Pagan festival and how to make a Wish Box, and included a piece on May Day, Whitsuntide and Spring Bank Holiday. We also had our first Y Golofn Gymraeg (The Welsh Column) which featured an article about the Bethesda Calvinistic Methodist Chapel in Llanwrtyd Wells &#8211; a Welsh-language article will be a regular feature. All issues of the monthly newsletter are available to download on the website <a href=\"\/cy\/news\/\">News pages<\/a>y wefan. Os hoffech chi dderbyn copi pob mis, danfonwch eich cyfeiriad ebost i mi ar pat@lwct.org.uk. <\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dau Gerbyd Newydd Arall!\nRydyn ni wedi prynu dau gerbyd newydd. Bydd y rhain yn ased go iawn i'r fflyd gan fod y ddau yn fysiau mini amlbwrpas sy\u2019n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.<\/p>","protected":false},"author":37,"featured_media":1343,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-1337","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-news"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/lwct.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1337","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/lwct.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/lwct.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/lwct.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/37"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/lwct.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1337"}],"version-history":[{"count":13,"href":"https:\/\/lwct.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1337\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1726,"href":"https:\/\/lwct.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1337\/revisions\/1726"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/lwct.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1343"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/lwct.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1337"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/lwct.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1337"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/lwct.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1337"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}